r/cymru • u/marcogorelli • 3h ago
Y Sesiwn: gwefan am ddim i ddysgu a rhannu alawon gwerin Cymreig
Helo pawb,
Dw i wedi creu Y Sesiwn (https://ysesiwn.cymru/), casgliad o tua 800 o alawon gwerin Cymreig i'w dysgu, eu chwarae a'u rhannu. Alawon offerynnol yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, felly mae'r wefan yn ymwneud mwy â rhannu a gwerthfawrogi ein cerddoriaeth draddodiadol nag â dysgu'r iaith, ond mae hi'n gwbl ddwyieithog.
Gallwch chi:
- chwilio am alaw yn ôl ei henw, neu drwy chwarae'r nodau cyntaf i'r meicroffon
- pori yn ôl math o alaw a chywair
- gweld y sgôr, newid y cywair a gwrando ar yr alaw ar unrhyw gyflymder
- gweld y tyllau neu'r tabiau ar gyfer y chwisl, y recorder, y mandolin, y ffidil a'r gitâr
- clywed sut i ynganu enwau'r alawon
- dod o hyd i sesiynau ledled Cymru, gyda map a chalendr
Mae'n gweithio heb signal ar ôl yr ymweliad cyntaf, felly mae'n handi yn y dafarn hefyd!
Mae'r wefan yn rhad ac am ddim, heb hysbysebion, ac yn ffynhonnell agored. Gall unrhyw un ychwanegu alawon neugywiriadau
Byddwn i wrth fy modd yn clywed eich barn. Os oes alaw ar goll yr hoffech chi ei gweld, rhowch wybod!
Diolch i'r mods am adael i mi ei rhannu.